Rhif y ddeiseb: P-06-1288

Teitl y ddeiseb: Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym.

Testun y ddeiseb:

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflymu’r broses o agor gorsaf gerdded ym Magwyr a Gwndy, a hynny fel 'llwyddiant cyflym' yn y broses o roi adroddiad yr Arglwydd Burns ar waith. Mae angen yr orsaf yn awr, gyda phoblogaeth Magwyr a Gwndy yn ehangu'n gyflym, a’r ardal ar fin dod yn dref.

Mae Grŵp Gweithredu Rheilffordd Magwyr (MAGOR) wedi bod yn ymgyrchu ers 10 mlynedd, gyda’r nod o adfer gorsaf reilffordd ar gyfer cymunedau Magwyr a Gwndy. Mae’r ymgyrch hon wedi ennyn cefnogaeth frwd gan y gymuned a chefnogaeth gynhwysfawr gan wleidyddion lleol yn y sir a’r Senedd, a chan ein Haelod Seneddol. O ganlyniad, cafodd y cynllun hwn ei gynnwys yn yr argymhellion a wnaed yn Adroddiad Burns ac yn y Rhaglen Gyflenwi gysylltiedig. Credwn y byddai’r cam hwn yn 'llwyddiant cyflym' gan ei fod yn elfen dechnegol o'r cynllun sydd yn syml ac yn gost-effeithiol .

 

Mae hanes llawn yr ymgyrch ar gael ar ein gwefan: magorstation.co.uk.

 

 


1.        Cefndir

Llywodraeth y DU a Network Rail sy’n gyfrifol am gynllunio ac ariannu seilwaith y rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd, yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd ac mae’n gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd Cymru a ddarperir drwy Trafnidiaeth Cymru.

Caeodd hen orsaf drenau Magwyr ym 1964 yn dilyn Adroddiad Beeching. Cafodd Grŵp Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd(MAGOR) ei ffurfio yn 2012 i ymgyrchu dros ailagor yr orsaf. Ers hynny, mae wedi gweithio i ailagor yr orsaf, gan gynnwys gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy ar geisiadau i Gronfa Gorsafoedd Newydd (NSF) Adran Drafnidiaeth y DU yn 2016 (NSF 2), ac eto yn 2020 (NSF 3). Methodd y ceisiadau hyn.

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganslo ffordd liniaru'r M4 yn 2019, cafodd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ('Comisiwn Burns') i ystyried dewisiadau eraill. Roedd ei adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, yn cynnig 'rhwydwaith o ddewisiadau amgen' yn lle'r ffordd liniaru.

Argymhellodd Comisiwn Burns 'rhaglen o ddatblygiadau gorsafoedd trenau newydd ar hyd y brif reilffordd, wedi’i hwyluso drwy ad-drefnu gwasanaethau rheilffyrdd'. Roedd hyn yn cynnwys rhestr o chwe gorsaf newydd rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Chyffordd Twnnel Hafren, gan gynnwys gorsaf newydd ym Magwyr fel gorsaf ‘cerdded a theithio’, a ragwelwyd fel gorsaf ‘tarddle’ yn bennaf i wasanaethu’r gymuned leol.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gymeradwyoargymhellion y Comisiwn wedi hynny. Cafodd uned gyflawni ei sefydlu dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru. Mae tudalen yr uned ar wefan Trafnidiaeth Cymru yn dweud:

Mae'r Uned yn canolbwyntio i ddechrau ar hwyluso gwelliannau i reilffordd Prif Linell De Cymru, a gorsafoedd newydd ar ei hyd, ynghyd â chymryd agwedd ymarferol at ddylunio opsiynau ar gyfer coridorau bysiau a theithio llesol yn a rhwng Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy, yn gwella mynediad i fysiau a theithio llesol a gorsafoedd rheilffordd hen a newydd.

Mae'r adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022 gan gadeiryddion yr uned gyflawniyn cynnwys llinell amser. Mae’r llinell amser hon yn dangos y byddai cynlluniau ar gyfer gorsafoedd trenau newydd a gwelliannau i’r traciau yn cael eu datblygu rhwng 2021 a 2026, a byddai gorsafoedd a gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno rhwng Caerdydd Canolog a Chyffordd Twnnel Hafren rhwng 2025 a 2029. Fodd bynnag, fel y nododd adroddiad Comisiwn Burns, mae angen i Lywodraeth y DU gymryd camau i wella’r seilwaith rheilffyrdd gan mae hi sy’n gyfrifol am y maes hwnnw yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2021, cymeradwywyd argymhellion Comisiwn Burns gan Adolygiad Cysylltedd yr Undeb, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU i lunio argymhellion i wella cysylltedd trafnidiaeth ledled y DU.

Mewn datganiad i'r wasgi gyhoeddi adroddiad yr adolygiad, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n ystyried argymhellion Adolygiad Cysylltedd yr Undeb yn fanwl, gan weithio gyda’r llywodraethau datganoledig. Ym mis Mai 2022, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ei fod yn disgwyl cyhoeddi ymateb yn ddiweddarach eleni.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae llythyr Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, at y Cadeirydd yn tynnu sylw at argymhellion Comisiwn Burns ac yn dweud:

Mae’r uned wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyfer y gwelliannau i gapasiti Prif Linell De Cymru a fyddai’n galluogi gorsafoedd newydd arni, ac mae gwaith bellach ar waith i arwain y penderfyniadau nesaf.

Yn fy marn i mae gwelliannau i’r rheilffyrdd yn allweddol i’r gwaith o wella ein hagenda trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, nad yw’r rhan fwyaf o’n seilwaith rheilffordd – na’r cyllid ar ei gyfer – wedi cael ei ddatganoli, a Llywodraeth y DU sy’n llawn gyfrifol amdano. Byddwn yn pwyso ar Llywodraeth y DU i bwerau dros seilwaith rheilffyrdd gael eu datganoli yn llawn i Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â setliad cyllid llawn a theg.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae cael gorsaf ym Magwyr yn fater y mae Aelodau wedi’i godi droeon yn y Senedd. Mae ymatebion diweddar i gwestiynau ysgrifenedig yn adlewyrchu cynnwys llythyr y Dirprwy Weinidog.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.